Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i danwydd gael ei ddwyn o dri ambiwlans.

Cafodd y cerbydau eu targedu ar Ddydd Calan yng ngorsaf ambiwlans Tredegar ym Mlaenau Gwent, ac oherwydd bod y lladron wedi eu difrodi bu’n rhaid eu trwsio.

Roedd hynny yn ei dro yn golygu nad oedd modd eu defnyddio am rhai oriau.

Cafodd cerbyd personol aelod staff ei ddifrodi hefyd, ond cafodd dim tanwydd ei ddwyn ohono.

Yr apêl

“Er gwaetha’r pethau y gallwch chi fod yn dyst iddynt yn y swydd hon, mae yna bethau sy’n dal i fod yn anodd eu credu,” meddai Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r gwasanaeth.

“Pam y byddai rhywun yn difrodi ac yn dwyn o ambiwlans? Dw i’n cael trafferth ei ddeall, ond fe ddigwyddodd…

“Rydyn ni nawr yn gofyn am help y bobol sy’n byw yn ardal Tredegar, ac yn gofyn iddyn nhw gysylltu os ydyn nhw wedi gweld neu glywed rhywbeth a allai ein helpu i ddal y rhai a wnaeth hyn.”