Adroddiadau bod gwresogydd trên wedi mynd ar dâ

Mae llinell drenau yng Nghwm Rhymni wedi ailagor yn dilyn trafferthion mewn gorsaf.

Bu’n rhaid i Drafnidiaeth Cymru oedi gwasanaethau gorsaf Pengam, sir Gaerffili, oherwydd “digwyddiad gweithredol” yno ar fore dydd Iau (Ionawr 2).

Ac yn ôl rhai adroddiadau, aeth gwresogydd ar dân mewn trên gan orfodi pobol i’w adael. Roedd disgwyl oedi am hyd at awr.

Bellach mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau bod Llinell Rhymni wedi ailagor.