Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad llofruddiaeth, wedi digwyddiad yn y dre’ nos Sul.

Fe gafodd swyddogion eu galw i Lakefield Place toc wedi 8.30yh, Rhagfyr 29.

Yno, fe ddaethon nhw i hyd i gyrff dyn 58 oed a menyw 46 oed.

Mae marwolaeth y dyn yn cael ei thrin fel llofruddiaeth, a marwolaeth y wraig fel un heb fod yn amheus.

Dyw’r jeddlu ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r achos.