Mae dyn 33 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn arall yng Nghaernarfon nos Sul (Rhagfyr 29)

Fe gafodd plismyn ru galw i fflat yn ardal Pendalar toc wedi 9.30yh, ar ól i ddyn 35 oed gael ei drywanu.

Mae Heddlu Gogkedd.Cymru eisiau siarad â dau ddyn lleol fel rhan o’r ymchwiliad.

Fe gafodd y dyn 35 oed ei gludo i Ysbyty Gwynedd, gydag anafiadau difrifol iawn.

“Yn ffodus, yn dilyn llawdriniaeth frys, mae bellach mewn cyflwr sefydlog,” meddai datganiad yr heddlu.