Mae Maes Awyr Caerdydd wedi gwneud colled cyn treth o £18.5m yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – ac mae hynny bron i deirgwaith y golled y llynedd.

Yn ôl adroddiad blynyddol y safle y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno, mae “ffactorau economaidd byd-eang” wedi bod yn gyfrifol am wanio’r diwydiant. yn cynnwys newid hinsawdd, Brexit a chynnydd ym mhris tanwydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y maes awyr yn cyfrannu £250m i’r economi.

Fe deithiodd 150,000 yn llai o bobol trwy faes awyr Caerdydd yn ystod 2018-19 oherwydd cwymp cwmni Thomas Cook.

Fe deithiodd dros 1.5 miliwn o bobol trwy Gaerdydd yn ystod haf 2018.