Mae un o arweinwyr Cristnogol Cymru wedi herio aelodau eglwysi a chapeli i fod yn fwy “arloesol a gweithredol” wrth i gynulleidfaoedd leihau yn gyflym ac addoldai gau “ar raddfa frawychus”.
Yn ei yn ei Neges Flwyddyn Newydd, dywedodd y Parchedig Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg: “Wrth i ni wynebu blwyddyn a degawd newydd, mae angen i ninnau fod yn barod i arloesi, neu wylio Cristnogaeth yn parhau i farw yn ein cymunedau, nes i Gymru gyd droi’n genedl a fydd bron yn hollol seciwlar.
“Mae’n hen bryd clirio’r pethau aeth yn faich a mentro – er y gallai hynny achosi loes inni ar y cychwyn.
“Ond y newyddion da yw bod yna filoedd lawer ohonom ni gredinwyr o hyd, ac mae Cristnogaeth wedi adnewyddu ei hun dros y canrifoedd trwy fod pobol yn dangos dewrder a gweledigaeth.”
Dywedodd bod bron i 20,000 o aelodau a phlant yn cwrdd mewn capeli Annibynnol ledled Cymru.
Mae’r Parchedig Dyfrig Rees yn galw ar aelodau i wneud Adduned Flwyddyn Newydd i “wneud o leiaf un peth arloesol” yn 2020.
“Petai ni’n methu, o leia’ ni fyddai hanes yn ein cofio ni fel y genhedlaeth na wnaeth hyd yn oed ymdrechu.”