Mae dafad oedd wedi mynd yn sownd ar bont ym Merthyr Tudful wedi cael ei hachub ar ôl i swyddog yr RSPCA ddefnyddio olew blodyn yr haul i’w rhyddhau.

Cafodd yr RSPCA eu galw i’r bont ar Ŵyl San Steffan ar ôl i gerddwr weld y ddafad mewn trafferthion.

Dywedodd arolygydd yr RSPCA Gemma Cooper: “Roedd dwy o’i choesau yn sownd yn y grid ar y bont ac ro’n i’n methu eu symud felly wnes i ofyn i’r person oedd wedi ein ffonio i nôl olew blodyn yr haul o’r tŷ.

“Ar ôl rhoi’r olew ar ei choesau roeddwn i’n gallu ei rhyddhau hi’n ddiogel o fewn tua phum munud.”

Dim ond man anafiadau gafodd y ddafad ac roedd hi’n gallu cerdded yn iawn ar ôl cael ei rhyddhau, meddai.