Mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i roi gwarant o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth ac addewid o gyllid yn lle’r arian presennol gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.
Daw’r galw wrth i Lywodraeth Cymru gadarnhau cyllid ffermydd yng Nghymru ar gyfer 2020 yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd yn darparu £243m ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol yn 2020, yn dilyn Brexit.
Bydd ffermwyr yng Nghymru’n cael taliad y Cynllun Taliad Sylfaenol yn 2020 ar yr un lefel ag yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y gefnogaeth i economi wledig Cymru a’r amgylchedd “yr orau bosib ar ôl Brexit drwy drosglwyddo 15% o gyllideb 2020 ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) i gefnogi datblygiad gwledig yn 2021/22.”
Dywedodd Lesley Griffiths: “Mae Cymru wedi elwa o flynyddoedd lawer o fuddsoddiad Ewropeaidd, gan gynnwys mewn amaethyddiaeth a datblygiad gwledig. Mae hyn yn hanfodol bwysig i ffermwyr Cymru ac i gymunedau gwledig.
“Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw gan Drysorlys EM ond gadewch i ni fod yn glir, dim ond cadarnhau ymrwymiadau a wnaed eisoes yw hyn.
“Hoffwn alw ar Lywodraeth y DU i roi gwarant o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth, ac i addo cyllid yn lle’r cyllid presennol gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd hyn yn galluogi i ni gynllunio gwaith pwysig yn y dyfodol i gefnogi amaethyddiaeth, datblygu’r economi, mynd i’r afael â newid hinsawdd a gwarchod ein hamgylchedd.”
“Sicrwydd”
Mae Ysgrifennydd Cymru Simon Hart wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gan ddweud ei fod yn dangos “ymrwymiad y Llywodraeth i ddarparu sicrwydd a chefnogaeth i ffermwyr Cymru.”
Ychwanegodd: “Mae hefyd yn tanlinellu’r cyfleoedd eang sydd ar gael i ni wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Drwy gymryd rheolaeth yn ôl o’r cyllid yma fe fydd yn ein galluogi i gynrychioli’n well y bobol ry’n ni’n eu gwasanaethu gan sicrhau bod gan ein cymunedau amaethyddol yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.”
Yn ol y Canghellor Sajid Javid, pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael y Cynllun Taliad Sylfaenol fe fydd y system newydd yn “decach” a bydd llai o fiwrocratiaeth.