Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad yn ymwneud a dryll yn Dyserth, Sir Ddinbych.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i’r digwyddiad yn oriau man fore dydd Sul (Rhagfyr 29).

Roedd swyddogion arfog wedi cael eu galw i’r digwyddiad ac wedi arestio’r dyn.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r trigolion lleol gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad ac wedi eu sicrhau nad oes risg pellach i’r cyhoedd.