Mae heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 23) yn nodi can mlynedd union ers i fenywod gael yr hawl i ymarfer y gyfraith am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
Roedd y Ddeddf (Diddymu) Gwaharddiad Rhywiol 1919 hefyd wedi rhoi’r hawl i fenywod eistedd fel ynadon ac ar reithgorau, a derbyn graddau prifysgol ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.
Daeth hyn flwyddyn wedi i fenywod gael yr hawl i bleidleisio yn sgil Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918.
“Newid hollbwysig”
Dywedodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg – elusen cydraddoldeb rhywiol: “Mae’n bwysig ein bod yn cofio ac yn dathlu’r newid hollbwysig hwn a ganiataodd i fenywod ymarfer y gyfraith, ac eistedd fel ynadon ac ar reithgorau.
“Mae’n hanfodol bod menywod yn cael eu cynrychioli, a bod eu lleisiau’n cael eu clywed, ar draws pob sector ac ar bob lefel o gymdeithas fel bod y penderfyniadau a wneir yn gynrychioliadol.”
Ychwanegodd Alys Carlton, partner yn Capital Law yng Nghaerdydd: “Mae dathliadau canmlwyddiant y bleidlais i fenywod y llynedd, a’r rhai sy’n nodi canmlwyddiant Deddf (Diddymu) Gwaharddiad Rhywiol 1919 eleni, yn rhoi cyfle i ni goffáu’r menywod ysbrydoledig a frwydrodd dros newid, ac i fyfyrio ar y cynnydd a gyflawnwyd.”