Mae ymchwiliad gan Swyddfa’r Cabinet i ymddygiad cyn-ysgrifennydd Cymru wedi gwrthod honiadau iddo dorri’r cod gweinidogion.

Roedd Alun Cairns wedi ymddiswyddo o’r Cabinet y mis diwethaf oherwydd ei gysylltiadau ag ymgeisydd Torïaidd sy’n cael ei gyhuddo o danseilio achos llys yn ymwneud â threisio.

Yn ôl adroddiad yr ymchwiliad, mae’n “annhebygol” nad oedd Aelod Seneddol Bro Morgannwg yn gwybod dim am rôl y cyn-aelod o’i staff, ond nad oedd y dystiolaeth yn cefnogi honiadau o dorri’r cod.

Roedd Alun Cairns wedi dweud nad oedd yn gwybod am y rhan a chwaraeodd Ross England wrth danseilio achos o dreisio yn erbyn cyfaill i hwnnw. Cafodd Alun Cairns ei gyhuddo o “ddweud celwyddau noeth” fodd bynnag ar ôl i BBC Cymru gael gafael ar neges e-bost a oedd yn awgrymu ei fod yn gwybod am yr honiadau ers dros flwyddyn.

Roedd wedi addo y byddai’n “cydweithredu’n llawn” gydag ymchwiliad o dan y Côd Gweinidogion, gan ychwanegu ei fod yn hyderus nad oedd wedi gwneud dim o’i le.

Cafodd Simon Hart ei benodi’n Ysgrifennydd Cymru yn ei le yn gynharach yr wythnos yma.