Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar y Llywodraeth, yn sgil y dyraniad ariannol ar gyfer 2020-21, i ddatgelu rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwariant ar y Gymraeg.

Yn benodol, mae’r mudiad eisiau gwybod sut bydd y Gymraeg yn cymryd ei lle yng ngwahanol gynlluniau’r Llywodraeth, o ran:

  • Gofal plant – sut bydd y Llywodraeth yn paratoi hyfforddiant ieithyddol digonol i ddarparwyr?
  • Addysg bellach – yr un yw’r cwestiwn sef, sut bydd y Llywodraeth yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth ieithyddol ddigonol i fyfyrwyr fydd yn aros yng Nghymru a chyfrannu ar yr economi leol?

“Mae Dyfodol i’r Iaith yn pwyso am fanylion ariannol y meysydd hyn,” meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

“Rhain yw’r meysydd fydd yn sefydlu sail gadarn i ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd addysg, yn y gymuned a’r gweithle.”