Bydd Jeremy Corbyn yn ymweld â seddi ymylol yng ngogledd Cymru dros y penwythnos gyda’r gobaith o ennill pleidleisiau yno.

Ddydd Sul (Rhagfyr 8) bydd Arweinydd y Blaid Lafur yn ymweld ag etholaethau Arfon (sedd Plaid Cymru); ac Aberconwy, a Gorllewin Clwyd (seddi Ceidwadwyr).

Wrth ymweld ag Arfon mi fydd Jeremy Corbyn yn cynnal rali ym Mangor ganol dydd.

Dyw union leoliad y digwyddiad ddim wedi cael ei gyhoeddi ac mae’r nifer cyfyngedig o lefydd ar gyfer y digwyddiad eisoes wedi eu llenwi.

O Fangor, mi fydd Jeremy Corbyn yn ymweld ag Aberconwy am ddau y prynhawn, cyn cynnal digwyddiad tebyg ym Mae Colwyn am 3.30. Dyw union leoliadau’r digwyddiadau hyn ddim wedi’u datgelu chwaith.

“Creu cymdeithas well”

“Bydd Jeremy Corbyn yn Arfon er mwyn trafod sut allwn greu cymdeithas well, ac rydym yn gobeithio y gallwch ymuno ag ef,” meddai trefnwyr y digwyddiad yn Arfon.

“Mae’r etholiad yma’n gyfle unwaith mewn oes i ni. Gyda’n gilydd mi allwn wrthdroi degawd o gyni ariannol.”

Enillodd Plaid Cymru yn Arfon yn 2017 gyda mwyafrif o ddim ond 92 ac mae disgwyl iddi fod yn agos eto Llafur yn llygadu Arfon, a Phlad Cymru yn barod am frwydr