Bydd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, yn lansio diwrnod cenedlaethol newydd heddiw (Rhagfyr 6), sef Diwrnod Hawliau’r Gymraeg.

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg mae’n ddiwrnod i ddathlu gwasanaethau Cymraeg a’r hawliau sydd gan bobl i ddefnyddio’r iaith.

Bydd gwahanol sefydliadau cyhoeddus yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ac yn ceisio hyrwyddo’u gwasanaethau Cymraeg. Hon yw’r flwyddyn gyntaf i’r diwrnod gael ei gynnal.

Dywed Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Ers tair blynedd mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru’n gweithredu safonau’r Gymraeg, ac mae’r rhain yn creu hawliau i bobl dderbyn gwasanaethau Cymraeg wrth ddelio â nhw.

“Mae’n bwysig hefyd, o ystyried targed y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, fod plant Cymru yn ymwybodol o’u hawliau fel siaradwyr Cymraeg.”