Fe allai Plaid Cwm Cynon fod mewn sefyllfa o “bŵer” pe bai yna senedd grog, yn ôl ei hymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol.

Cafodd y blaid ei sefydlu gan ddau ddyn busnes o Aberdâr yn 2016, Andrew Chainey, a  Graham Marsh; ac eleni mae’r cyntaf o’r ddau yn sefyll trosti yn yr etholiad.

Mae etholaeth Cwm Cynon yn gadarnle Llafur, ac mae saith ymgeisydd yn sefyll yno i gyd, ond mae’r dyn o Blaid Cwm Cynon yn ffyddiog am ei obeithion.

Mae’n egluro bod ei blaid yn frwd o blaid cyflawni Brexit – pleidleisiodd 56.9% o’r sedd o blaid gadael yn 2016 – ac mae’n teimlo y gallai fod mewn safle cryf pe na fyddai un blaid yn ennill mwyafrif.

“Rydym yn sicr yn sefyll tros ffordd well o wneud pethau,” meddai. “Mae’r sustem wedi torri. Pan dyw’r cynrychiolwyr lleol a chenedlaethol ddim yn cynrychioli ewyllys y bobol, mae rhywbeth yn bod. Dyna rydym ni’n ei gredu.

“Mae gennym gyngor, Aelod Cynulliad, ac Aelod Seneddol Llafur sydd ddim yn cynrychioli’r 57% o’n cwm a oedd eisiau Brexit – a oedd eisiau gadael. Mae’n annemocrataidd…

“Mewn senedd grog efallai byddai gennym bŵer wrth negodi.”

Mae’n dweud bod y blaid i’r “canol, efallai i’r dde o’r canol” ac mae’n dweud y byddai’r un mor agored i ochri â’r Ceidwadwyr ag y byddai â’r Blaid Lafur yn San Steffan.

Ann Clwyd yn camu o’r neilltu

Ers cael ei sefydlu yn 1983 mae’r etholaeth wedi cael ei chynrychioli gan Lafur, ac ers 1984 mae wedi cael ei chynrychioli gan yr un Aelod Seneddol, Ann Clwyd.

Ond eleni mae wedi camu o’r neilltu ac mi fydd ymgeisydd newydd, Beth Winter, yn cynrychioli Llafur yn ei lle.

Dyw Andrew Chainey ddim yn gorfoleddu am ei fod yn teimlo y byddai wedi cael mwy o obaith o guro Ann Clwyd.

“[Mae gennym] llai o gyfle na pe bai hi wedi peidio â sefyll i lawr,” meddai. “Dyna yw’r gwir. Efallai mai hi oedd yn cynrychioli’r cwm, ond dyw hi ddim wedi cynrychioli’r cwm go iawn.

“Dyw hi ddim wedi treulio llawer o amser yna. Dyw hi ddim wedi rhoi’r sylw i’r ardal mae hi’n haeddu. Mae llawer o bobol wedi digalonni â Llafur oherwydd hynny.

“Gyda hi’n sefyll i lawr, dw i’n credu ei fod yn cynyddu gobeithion Llafur.”

Safodd Mary Winter, mam Beth Winter, yn erbyn Ann Clwyd yn 1984 ar ran y Blaid Gomiwnyddol.