Mae ansicrwydd am statws a dyfodol yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd wedi i dros 6,500 o bobol arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu bwriad Cyngor Caerdydd i newid statws yr eglwys o fod o dan reolaeth elusen i fod yn fusnes preifat.

Mae’r ymddiriedolaeth sy’n gyfrifol am yr adeilad, Cymdeithas Norwyaidd Cymru, yn anhapus ac yn dweud nad oes modd newid y statws.

Ar dudalen y ddeiseb mae’r Gymdeithas yn “mynnu bod Cyngor Caerdydd yn gollwng eu cynllun i droi’r Eglwys Norwyaidd yn fusnes preifat, ac yn lle hynny cydymffurfio â’i statws elusennol, a’i chynnal at ddefnydd y cyhoedd”.

Mae golwg360 wedi holi am ymateb gan Gyngor Caerdydd.