Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) yn galw am wahardd cytundebau dim oriau, wedi iddi ddod i’r amlwg bod eu defnydd wedi cynyddu 35% mewn blwyddyn yng Nghymru.

Dan gytundeb dim oriau nid yw’r cyflogwr yn gorfod gwarantu isafswm o oriau gwaith, ac nid yw’r gweithiwr yn gorfod derbyn unrhyw waith sy’n cael ei gynnig.

Yn ôl cofnodion y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae 50,000 o bobl yng Nghymru ar gytundeb dim oriau.

Mae hyn wedi cynyddu o 37,000 yn 2018, ac yn cynrychioli 3.4% o’r holl bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru – y gyfradd uchaf erioed.

“Mae pawb yn haeddu sicrwydd ynglŷn â’r oriau maen nhw’n eu gweithio bob wythnos, felly mae’n annerbyniol bod nifer y contractau dim oriau yng Nghymru wedi cynyddu fwy na thraean mewn cwta flwyddyn,” meddai Julie Cook,  Swyddog Cenedlaethol y TUC.

“Mae angen i Lywodraeth y DU gael gwared â’r cytundebau annheg yma. Mae angen swyddi cadarn ar weithwyr yng Nghymru, gyda sicrwydd o oriau.”

Galw am wahardd y cytundebau

Mae Cyngres yr Undebau Llafur yn galw ar lywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig i wahardd cytundebau dim oriau.

Maen nhw eisiau cyflwyno cyfnod rhesymol i roi gwybod am shifftiau, a thâl am shifftiau sy’n cael eu canslo.

Hefyd maen nhw am ei chael hi’n haws i undebau llafur gael mynediad at weithleoedd i roi gwybod i weithwyr sut gallai ymaelodi ag undeb llafur wella eu sefyllfa yn y gweithle.