Mi fyddai Llywodraeth Lafur Jeremy Corbyn yn ariannu adeiladu morlun yn Abertawe ac atomfa niwclear Wylfa Newydd ym Môn, pe bai hi’n dod i rym wedi’r etholiad cyffredinol.
Y llynedd fe ddywedodd y Llywodraeth Geidwadol nad oedd y cynllun i osod morlun ym Mae Abertawe – a fyddai yn costio £1.3 biliwn – werth yr arian.
Ac mae’r cynllun i godi Wylfa Newydd, ar gost o £13 biliwn, wedi mynd i’r gwellt.
Ond wrth lansio’i faniffesto heddiw mae Jeremy Corbyn wedi addo adfer y ddau gynllun.
“Mi fyddwn ni yn rhoi hwb i gyllidebau sydd wedi eu datganoli, er mwyn caniatáu i Lywodraeth Lafur Cymru ychwanegu at ei lwyddiant gyda phrosiectau anferthol newydd fel morlyn Bae Abertawe,” meddai Arweinydd Llafur.
Mae addewid hefyd i gynyddu cyllideb Llywodraeth Cymru o £14.4 biliwn i £17.8 biliwn yn 2020.