Mae’r gantores Charlotte Church wedi cael caniatâd i agor ysgol i 20 o blant yn ei chartref.

Rhoddodd Gyngor Bro Morgannwg sêl bendith i’r cynllun ar gyfer plant rhwng naw ac 11 oed.

Dywed Charlotte Church ei bod hi’n agor yr ysgol ar gyfer plant sydd yn ei chael hi’n anodd ymdopi gydag addysg arferol.

Ond mae un o gymdogion y gantores yn dweud fod y cynllun yn “ddatblygiad anaddas” gan nad yw’r stryd lle maen nhw yn byw yn “safle call i gael ysgol”.

“Does ganddi ddim cefndir addysgiadol nag unrhyw brofiad o redeg ysgol,” ychwanegodd y cymydog.

Y cwmni Reading Agricultural Consultants sydd tu ôl i’r cynllun.

Dywed Ieuan Williams o’r cwmni fod yr ysgol “y cyntaf o’i fath yn y byd ac mae wedi ennyn diddordeb arbenigwyr mewn addysg.”

Mae’r cyngor sir ar ddeall mai am flwyddyn gynta’r prosiect yn unig y bydd yr ysgol wedi ei leoli yn nhŷ’r gantores. Mae disgwyl i’r ysgol symud i safle arall  ym mis Gorffennaf 2020.