Mae cwmni Aston Martin yn gwerthu eu car chwaraeon cyntaf erioed – am £158,000.

Maen nhw’n gobeithio y bydd cynhyrchu’r car newydd sbon hwn yn cynyddu eu gwerthiant, gan ddilyn esiampl cwmnïau fel Porsche a Lamborghini.

Bydd y car yn cael ei adeiladu ar safle’r cwmni yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, ac mae’n cael ei ddisgrifio fel car sy’n gallu cael ei addasu “ar gyfer ystod eang o anghenion bywyd a pherchnogion”.

Dyma’r tro cyntaf i un o geir y cwmni gael ei gynhyrchu ar y safle.

Fe all gyrraedd cyflymdra uchaf o 191 milltir yr awr, ac mae’n gallu mynd o 0 i 62 milltir yr awr mewn 4.5 eiliad.

Mae modd archebu’r car o heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 20) ymlaen, ac fe fydd y rhai cyntaf yn cyrraedd yn y gwanwyn.

Gobaith y cwmni yw y bydd y car newydd yn helpu i wyrdroi colledion cyn treth o £92.3m dros y tri chwarter diwethaf.

Diffyg gwerthiant yng ngwledydd Prydain ac Ewrop yw’r broblem, meddai’r cwmni.

‘Hynod gyffrous’

“Alla i ddim pwysleisio digon mor hynod gyffrous ac arwyddocaol yw’r DBX i Aston Martin,” meddai Dr Andy Palmer, llywydd a phrif weithredwr Aston Martin Lagonda.

“Trwy ei ddatblygu, mae’r SUV hardd hwn eisoes wedi mynd â’r cwmni i dir newydd ac i gyfeiriadau ysbrydoledig.

“Mae hon yn garreg filltir go iawn i’r brand Prydeinig hwn ac rwy’n addo y bydd y DBX yn wobr i bawb sy’n cael ei brofi yn eu bywydau bob dydd.”