Fe fydd gweithwyr proffesiynol, plant a phobl ifanc Cymru yn dathlu 30ain pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, a Julie Morgan AC heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 20).

Bydd y digwyddiad hefyd yn cael ei ffrydio ar y we.

Mae’r Confensiwn yn gytundeb rhyngwladol sy’n cyflwyno hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pob plentyn, beth bynnag yw eu hil, crefydd neu alluoedd.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud y Confensiwn yn rhan o gyfraith gwlad, a hefyd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i benodi Comisiynydd Plant.

‘Cymru’n arwain y ffordd’

Yn y digwyddiad, bydd chwe sefydliad o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn derbyn Nod Barcud y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol gan Brif Weinidog Cymru, i gydnabod eu hymroddiad i sicrhau bod plant yn cymryd rhan yn eu gwasanaethau trwy roi’r Safonau ar waith.

“Mae Cymru yn arwain y ffordd ar hawliau plant,” meddai Mark Drakeford.

“Fe wnaethom ymgorffori’r Confensiwn yn ôl y gyfraith a ni oedd rhan gyntaf y DU i sefydlu swydd comisiynydd plant i hyrwyddo a diogelu hawliau plant.

“Rydyn ni wedi cyflawni llawer dros y 30 mlynedd diwethaf ers i’r Confensiwn gael ei genhedlu ac rwy’n gyffrous am y cynnydd y gallwn ei wneud gyda’n gilydd dros y 30 mlynedd nesaf.”

Bydd Julie Morgan AC yn cadeirio sesiwn panel gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, pobl ifanc anabl a gofalwyr ifanc yn y prynhawn. Bydd y panel yn cael cyfle i holi’r gweithwyr proffesiynol yn y gynulleidfa am y materion pwysicaf iddyn nhw.

Barn plant

“Rydyn ni’n gwybod, lle mae plant a phobl ifanc wedi rhoi eu barn ar yr hyn fyddai’n gwella eu bywydau, bod y polisïau sydd wedi deillio o hynny wedi bod yn fwy effeithiol,” meddai Catriona Williams, prif weithredwr Plant yng Nghymru.

“Yn arbennig, mae gofalu bod lleisiau plant a phobl ifanc sydd o dan anfantais neu’n dioddef camwahaniaethu yn cael eu clywed yn sicrhau bod adnoddau cyhoeddus gwerthfawr yn cael eu targedu yn y ffordd gywir.

“Rwy’n gobeithio y bydd sefydliadau yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle i roi’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc ar waith. Mae’r safonau hyn yn unigryw i Gymru.”