Mae mudiad Yes Cymru yn cynnal seminar ar economeg Cymru annibynnol yng Nghaerdydd heddiw (Tachwedd 16).

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Nheml Heddwch Caerdydd am 1.30yp yr hwyr.

Ymhlith y siaradwyr mae Keith Barnham, Hilary Brown, David Buttress, Dawn Davies, Mark Hooper, Guto Ifan.

Caiff y seminar ei gadeirio gan Beti George.

“Dwi wedi gwneud hyn o’r blaen i Yes Cymru yn yr Eisteddfod, ac mi wnes i fwynhau gwneud hwnnw,” meddai’r ddarlledwraig.

“Dwi’n meddwl fod gan bob cenedl yr hawl i reoli eu hunain a hefyd mae’r economegwyr yn fy narbwyllo i y byddwn ni’n gallu fforddio gwneud hynny.

“Tydi’r system bresennol ddim yn gweithio, ac o safbwynt economaidd beth dwi’n ei feddwl yw na all ddim byd fod yn waeth.”