Dyn gyda diploma mewn Diwinyddiaeth yw ymgeisydd Plaid Brexit ar gyfer yr etholiad cyffredinol ym Mlaenau Gwent.

Ac mae efengyl Brexit yn llifo’n rhwydd oddi ar dafod Richard Taylor yn yr etholaeth lle bleidleisiodd 62% tros adael yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm 2016.

Mae gan y Blaid Lafur fwyafrif o 11,907 ym Mlaenau Gwent, ardal sydd wedi ei chynrychioli yn y gorffennol gan gewri gwleidyddol megis Aneurin Bevan a Michael Foot.

“Mewnlifiad anferthol”

Mae Richard Taylor wedi bod yn canfasio gydag Arweinydd Brexit, Nigel Farage, ac yn dweud bod Llafur am dalu’r pris am beidio gwrando ar eu cefnogwyr craidd yn y Cymoedd, yn ôl Richard Taylor.

“Mae’r mewnlifiad anferthol ddigwyddodd dan Tony Blair wedi rhoi’r Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau affwysol,” meddai.

“Ac adeg y refferendwm [yn 2016] roedd yna deimladau cryfion bod gwleidyddion wedi colli golwg ar broblemau pobol cyffredin…

“Rydw i wedi gweld drosof fy hun sut mae Cymru wedi mynd yn dlawd, yn enwedig yma ym Mlaenau Gwent  – yma mae ganddoch chi’r ganran uchaf o dlodi plant yng Nghymru gyfan.

“Ac i mi, fel rhywun sy’n dod o gefndir tlawd, nid yw hynny yn dderbyniol…

“Rydw i yn teimlo yn gryf bod gwleidyddion wedi anghofio’r bobol sydd wedi eu hethol nhw.

“Tros yr ugain mlynedd ddiwethaf mae canol trefi’r etholaeth –  boed hynny yng Nglyn Ebwy, Brynmawr, Blaenau, Abertyleri, Tredegar – mae calonnau’r trefi yna wedi eu dinistrio.

Plaid Brexit yn “denu pobol o bob cefndir dan haul”

Ym mis Awst eleni aeth Richard Taylor i ganfasio tros Plaid Brexit yn isetholiad Brycheiniog a Maesyfed.

“Wrth ymgyrchu fe wnes i ddechrau siarad gyda phobol ar y stryd a synhwyro bod yna angen mawr i newid gwleidyddiaeth,” meddai.

“Ac fe welais i blaid sy’n denu pobol o bob cefndir dan haul, yn yrwyr tacsis a faniau, yn feddygon a nyrsys – nid y cnwd arferol o wleidyddion.”

Mwy am Blaid Brexit yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg