Mae Plaid Cymru wedi cymryd sedd ar Gyngor Castell-Nedd Port Talbot oddi ar y Blaid Lafur.

Mi gipiodd Marcia Spooner ward Rhos gyda 54% o’r bleidlais, sy’n gynnydd o 23% o gymharu â’r etholiad diwethaf yno.

Daeth y Ceidwadwyr yn ail gyda 24% o’r bleidlais (cynnydd o 1%) a daeth ymgeisydd y Blaid Lafur yn drydydd gyda 22% o’r bleidlais (cwymp o 24%).

Roedd Marcia Spooner wedi sefyll tros y ward yn etholiad lleol 2017, a hi oedd yr unig ymgeisydd yn y bleidlais yma o oedd yn byw yn y ward.

Arwyddocâd

Mae rhai’n amau bod y Blaid wedi llwyddo yno oherwydd y pact ‘Aros’ sydd ar waith rhwng Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion.

Ac mae rhai wedi bod yn myfyrio ar arwyddocâd y canlyniad, gan gynnwys gohebydd Sky News, Lewis Goodall, sy’n dweud bod “rhywbeth diddorol” ar droed yng Nghymru.