Mae Adam Price wedi cael ei feirniadu’n hallt am amddiffyn ei ddefnydd o’r term ‘reparations’ yng nghynhadledd ei blaid.

Wrth annerch aelodau Plaid Cymru fis diwethaf, mi alwodd ar San Steffan i dalu iawndaliadau – “reparations” yn Saesneg –  i Gymru yn dilyn canrifoedd o ormes.

Mae’r term, yn Saesneg, yn cael ei ddefnyddio gan amlaf yng nghyd-destun pobol croenddu a gormes caethwasanaeth, a chafodd ei feirniadu ar y pryd gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Bellach, mewn cyfweliad â’r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) mae Adam Price wedi amddiffyn ei ddefnydd o’r term, ac mae hynny wedi denu beirniadaeth gan yr Aelod Cynulliad croenddu Vaughan Gething.

‘Iaith brofoclyd’

“Unwaith eto mae Adam Price wedi dewis defnyddio iaith bryfoclyd – ac sydd â chysylltiadau â hil – trwy sôn am reparations,” meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd.

“Dyw hynny ddim yn dangos awydd i dderbyn a chynnwys pawb. Mae’n fwriadol sarhaus ac yn ffordd o fynnu sylw. Dyw e ddim yn cuddio hynny. Mae’n cyfaddef hynny’n agored yn y cyfweliad.

“Mae’n fwriadol yn cymharu gormes pobol sydd ddim yn wyn – dros ganrifoedd – gyda bod yn Gymro neu’n Gymraes. Cyfrannodd Cymru’n fawr at y gormes yna ac mae digon o dystiolaeth o hynny. Mae hyn yn warthus.”

Mae’r gweinidog iechyd hefyd wedi dweud mai “poblyddiaeth Trumpaidd yw ei ymddygiad ffug-ddeallus”, gan ategu: “allwn ni ddim gadael i’r gwenwyn yma gael gafael ar ein gwleidyddiaeth”.

Y sylwadau

Wrth siarad yn y gynhadledd dywedodd Adam Price mai “reparation” sydd angen ar Gymru yn dilyn “canrif o esgeulustod” gan San Steffan.

Ac yn ei erthygl i IWA yr wythnos hon, mae’n amddiffyn hynny gan ddweud bod sefyllfa hanesyddol Cymru “i’r rhan fwyaf o bobol yn eithaf tebyg, os nad yn union yr un peth, a threfedigaethu.”

Mae Adam Price yn derbyn bod Cymry wedi bod yn berchen ar byllau glo – ac felly wedi bod ynghlwm â gwladychu Cymru – ond yn dweud mai “eithriad oedd y rheiny”.

Ac yn ddiweddarach yn y darn, wrth drafod ymateb y wasg Brydeinig i’w sylwadau yn y gynhadledd mae’n dweud “weithiau, a bod yn onest, rhaid dweud pethau eofn iawn er mwyn ennyn ymateb.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.