Mae cynnig Rhun ap Iorwerth i sicrhau enw uniaith Gymraeg i’r Senedd wedi cael ei drechu.

Fe gyflwynodd welliant yn awgrymu na ddylid gosod enw dwyieithog ‘Senedd Cymru / Welsh Parliament’ ar y sefydliad, gan ddadlau bod y term ‘Senedd’ yn gyfarwydd i bawb.

Ond fe gollodd y bleidlais o 39 i 16.

Cafodd gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru eu chwipio i gefnogi enw dwyieithog, ond roedd aelodau’r meinciau cefn yn rhydd i ddewis drostyn nhw eu hunain.

Wrth ddatgan ei farn, siaradodd Mike Hedges, yr aelod Cynulliad Llafur, yn frwd dros enw uniaith Gymraeg.

Fe holodd a fyddai sianel deledu’r Senedd, Senedd TV, bellach yn cael ei galw’n Senedd Cymru / Welsh Parliament TV.

Yn ystod y drafodaeth, cafodd cynnig i alw’r aelodau’n ‘Aelodau o’r Senedd / Members of the Senedd’ ei basio.

Rhun ap Iorwerth yn angerddol

Fe draddododd Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, araith angerddol o blaid cadw enw uniaith Gymraeg ar y sefydliad, gan ddweud bod “bil o’r math… yn mynnu cydweithio… a chyfaddawd”.

“Mae o’n golygu sylweddoli be’ ydi’n rôl ni fel Senedd,” meddai.

Ychwanegodd fod y bil yn “ymwneud nid â pholisi, nid â rhaglen llywodraeth, nid â heddiw hyd yn oed ond yn hytrach, â’r gwaith o adeiladu cenedl ar sefydliadau sydd eu hangen ar y genedl honno ar gyfer cenedlaethau i ddod”.

“Wrth gynnig y gwelliant, dw i’n apelio’n daer ar Lywodraeth Cymru yn arbennig i ail-ystyried eu safbwynt nhw ac i ail-ystyried be’ ddylai eu rôl nhw fod yn y cyd-destun yma.”

Daw ei sylwadau am Lywodraeth Cymru yn dilyn penderfyniad, yn groes i ddymuniad gwreiddiol Jeremy Miles, i beidio â chwipio’r blaid i gefnogi enw dwyieithog.

‘Y Cynulliad wedi troi’n senedd’

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ymhellach fod “y Cynulliad wedi troi’n senedd” dros gyfnod o ugain mlynedd.

“Mae gennym ni gyfle hefyd i roi enw a theitl i’n senedd, yma yn y Senedd, sef enw’r adeilad eisoes…

“Mae’n fy nharo i’n synhwyrol dros ben i fedydddio ein senedd ni’n Senedd.

“Senedd Cymru yw senedd Cymru.”

‘Enw sy’n cynnwys pawb’

Wrth gyfeirio at y Gymraeg fel iaith pawb, ychwanegodd fod “gan bob gwlad senedd, ond dim ond un all fod â Senedd“.

Dywedodd fod rhaid i’r enw adlewyrchu dymuniad y bobol.

Wrth ategu sylwadau Rhun ap Iorwerth, ychwanegodd Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn Arfon, y byddai’r Cynulliad yn “colli cyfle” ac y byddai arddel enw dwyieithog yn “gamgymeriad a fyddai efo ni am flynyddoedd i ddod”.

“Buan iawn y byddai’r Senedd yn ennill ei blwy yng ngeirfa pawb yng Nghymru, yn union fel y mae panad cwtshtwpnain a hiraeth ac yn y blaen,” meddai wedyn.

Ond wrth ymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles na fyddai enw dwyieithog yn effeithio ar y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050.