Mae ymgyrchwyr Yes Cymru ar hyd a lled y wlad wedi bod yn chwifio baneri ar bobol ar eu ffordd i’w gwaith heddiw (dydd Llun, Hydref 28) gan eu hannog i ganu corn os ydyn nhw o blaid annibyniaeth.
Mae eu neges yn syml, meddai Cadeirydd Yes Cymru, Siôn Jobbins – “Dyw San Steffan ddim yn gweithio”.
“Mi ddaru ni benderfynu y byddai grwpiau lleol heddiw yn chwifio baneri arbennig rydym wedi eu creu sy’n dweud ‘Dyw San Steffan ddim yn gweithio’,” meddai Siôn Jobbins.
“R’yn ni eisiau i gymudwyr sy’n teithio i’r gwaith weld fod annibyniaeth yn opsiwn gwell na San Steffan a’u bod nhw wedyn yn sgwrsio yn eu lle gwaith am annibyniaeth.”
Creu mudiad torfol i Gymru gyfan
Ymysg y grwpiau lleol Yes Cymru sydd wedi cymryd rhan mae Wrecsam, Llangollen, Abertawe, Caernarfon, Dolgellau a Chaerdydd.
“Mae’n dangos ein bod ni’n hyderus o fynd a’r neges o annibyniaeth allan,” meddai Siôn Jobbins.
“Beth sydd yn wych yw ein bod ni’n creu mudiad torfol dros annibyniaeth ymhob rhan o Gymru.”