Mae dynes 53 oed wedi cael anafiadau difrifol ar ôl cael ei tharo gan gar yn Abertawe.

Cafodd ei tharo gan gar VW Beetle wrth gerdded ar Stryd Woodfield yn ardal Treforys am oddeutu 8.55 neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 26).

Er ei hanafiadau, mae lle i gredu nad yw ei bywyd mewn perygl.

Bu’n rhaid cau’r stryd am nifer o oriau er mwyn cynnal ymchwiliad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.