Bu’r awdurdodau yn archwilio casglwyr cocos yn sir Gaerfyrddin yr wythnos hon, ychydig oriau ar ôl i 39 o gyrff gael eu darganfod yng nghefn lori yn Essex.
Cafodd y gwiriadau diogelwch eu cynnal gan gorff y GLAA, a sefydlwyd yn 2004 ar ôl i 23 o weithwyr anghyfreithlon o Tsieina foddi yn y môr yn ardal Bae Morecambe yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Bu swyddogion y corff, ynghyd â’r heddlu, yn ymweld â gwelyau cocos ger aber afonydd Tâf, Tywi a Gwendraeth ddydd Mercher (Hydref 23).
Ar yr un diwrnod, cafodd cyrff wyth dynes a 31 dyn eu darganfod yng nghefn lori yn ardal Grays, Essex. Mae’r heddlu o’r farn eu bod nhw’n hanu o Tsieina, er bod adroddiadau eraill yn awgrymu bod rhai o Fietnam.
Mae’n debyg bod y gwiriadau yn sir Gaerfyrddin wedi eu cynllunio o flaen llaw.
Cafodd tua 50 o weithwyr, gan gynnwys rhai o wlad Pwyl, Rwmania a gwledydd Prydain, eu cyfweld gan swyddogion a’u gofyn i ddangos eu trwyddedau gwaith.
Cafodd y broses ei chwblhau heb unrhyw broblemau, yn ôl y GLAA.