Mae sawl Aelod Seneddol o Gymru wedi datgan na fyddan nhw’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf gan gynnwys Albert Owen, cynrychiolydd Ynys Môn a Glyn Davies.
Dyw hynny ddim wedi dylanwadu ar benderfyniad Ann Clwyd, meddai, ond mae hi yn cydnabod bod pwysau Brexit arni yn cynyddu.
“Tan ryw dair wythnos yn ôl, ar y cyfan, roedd y llythyrau yr oeddwn i’n eu cael yn fy nghefnogi i ac yn dweud diolch byth fy mod wedi [cefnogi aros],” meddai.
“Ond yn y tair wythnos diwethaf mae fel bod yna bwysau newydd.
“Mae’r llythyrau, mae’r geiriau’r un peth… pobol sydd o blaid Brexit ac yn gwylltio eich bod chi fel aelod Seneddol ddim wedi cefnogi eu barn nhw.”