Mae Delyth Jewell, gweinidog cysgodol Plaid Cymru sydd â chyfrifoldeb am Faterion Rhyngwladol a’r Dyfodol, yn galw am wahardd plastig un tro yng Nghymru.

Daw sylwadau’r Aelod Cynulliad dros Dde-Ddwyrain Cymru wrth i’r blaid gyfarfod ar gyfer ei chynhadledd hydref yn Abertawe.

Mae’n dweud y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno mesurau i wahardd plastig un tro erbyn 2026.

“Ar ôl i Blaid Cymru ennill etholiad 2021, byddaf yn gweithio gyda Gweinidog yr Amgylchedd Llŷr Gruffydd ar fesurau i sicrhau bod Cymru’n dod yn 100% hunangynhaliol mewn ynni adnewyddadwy erbyn 2035,” meddai o’r gynhadledd.

“Ac o fewn ein tymor cyntaf, byddwn yn rhydd o blastig un tro.

“Byddwn yn trafod hyn gyda’r pleidiau sydd â diddordeb yn y misoedd nesaf, ac yn cyhoeddi cynnig manwl yn ein maniffesto ar gyfer etholiad 2021.”