Peter Hain
Mae Peter Hain wedi galw am wella’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau achub pyllau glo ar ôl i adroddiad i drychineb Gleision ddatgelu gwendidau allweddol.

Yn ôl AS Castell Nedd, fe arweiniodd y diffyg adnoddau at ddadleuon dros dalu biliau, ac roedd yn rhaid i rai costau gael eu talu gan gwmniau cloddio cyfagos.

Mewn adroddiad a anfonwyd at yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, dywedodd Peter Hain fod trychineb pwll glo Gleision “wedi dangos diffygion a allai fod yn angheuol wrth ddarparu adnoddau ar gyfer gwasanaeth achub pyllau glo ac Awdurdod Heddlu De Cymru.”

Bu fawr David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, ar ôl i’r gloddfa lenwi â dŵr fis diwethaf, llwyddodd tri arall i ddianc.

‘Ewyllys da’

Mae’r AS wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i fynd i’r afael â’r broblem ar unwaith, “neu fel arall, petai yna drasiedi tebyg i hyn eto, gallai’r gwaith achub a’r ymchwiliad gael eu cyfaddawdu’n ddifrifol: dim ond ewyllys da wnaeth atal hynny rhag digwydd yn Gleision,” meddai.

“Sawl gwaith, yn ystod y gwaith achub, a’r ymchwiliad, roedd nifer o ddadleuon dros dalu biliau, ac fe dalodd Walters Mining o Aberoergwm £4,500 am y bil diesel ar gyfer y generaduron i yrru’r pympiau dŵr,” meddai Peter Hain.

“Pe na byddai Walters Mining wedi camu mewn a gwirfoddoli i wneud hynny (heb unrhyw sicrwydd o gael eu harian yn ôl) gallai’r gwaith achub fod wedi cael ei beryglu’n fawr.”

Mae Peter Hain hefyd yn honni bod timau achub, yr heddlu, ac archwilwyr iechyd a diogelwch, “wedi dibynnu’n fawr ar gwmniau cloddio eraill i ryddhau eu staff ar gyfer y gwaith.”

Maen debyg bod archwiliwr y pwll glo hefyd wedi gorfod galw ar Walters Mining, Unity Mining a Metal Innovations Cyf i ryddhau eu gweithwyr er mwyn darparu mwy o gymorth yn ystod yr ymchwiliad.

Yn ôl Peter Hain, dyma “arwyr tawel” y gwaith achub.

“Er clod iddyn nhw, doedd byth yr un amheuaeth a fydden nhw’n cydweithio,” meddai, er na chafodd yr un o’r cwmniau eu talu am ryddhau’r dynion o’u gwaith arferol.

Roedd ei adroddiad i’r Ysgrifennydd Cartref hefyd yn dweud nad oedd hi’n dderbyniol bod Heddlu De Cymru wedi gorfod delio â bil o dros £200,000 ar ôl y gwaith achub ac ymchwil, pan fod y Llywodraeth wedi torri £19 miliwn oddi ar eu cyllideb flynyddol.