Mae replica o ddrws 10 Downing Street wedi ei godi yng nghefn gwlad Gwynedd yn deyrnged i David Lloyd George – y Cymro a ddaeth yn Brif Weinidog tros y Deyrnas Unedig.

Ef yw’r unig siaradwr Cymraeg iaith gyntaf i esgyn i’r rôl, a chafodd ei fagu yn Llanystumdwy cyn iddo ddilyn gyrfa gyfreithiol a gwleidyddol ar droad y ganrif diwethaf.

Mae’r replica – sy’n unfath a drws cartref Prif Weinidog y Deyrnas Unedig – wedi ei osod ar dir Amgueddfa Lloyd George, gamau yn unig o’r tyddyn lle cafodd ei fagu.

Mae’n rhan o brosiect celfyddydol, ‘Gwreiddio’, sy’n ceisio codi proffil yr amgueddfa, ac mae wedi ei ariannu gan Gyfeillion Amgueddfa Lloyd George.

Y drws “enwog”

“Gyda’r byd yn canolbwyntio ar San Steffan a Downing Street ar hyn o bryd, mae’n amserol fod copi o’r drws rhif 10 enwog hwnnw yn Llanystumdwy,” meddai Gareth Thomas, Cynghorydd ar Gyngor Gwynedd.

“Beth bynnag eich barn wleidyddol, does dim dwywaith fod David Lloyd George yn un o wleidyddion mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf.

“Mae Amgueddfa Lloyd George yn cynnig golwg hynod ddiddorol i’w wreiddiau yn Llanystumdwy. Os nad ydych wedi bod draw o’r blaen, beth am gymryd y cyfle yma i weld y drws rhif 10 ag ymweld a’r amgueddfa.”