Mae cwmni Penserniaeth Boyes Rees Architects wedi mynd i’r wal, gan roi 40 o bobol yn ei swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain ar y clwt.

Cafodd Siann Huntley ac Andrew Beckingham sy’n gweithio i Leonard Curtis Business Rescue & Recovery eu penodi yn gyd-weinyddwyr wedi i’r cwmni fynd i drafferthion ariannol.

“Ar ôl cael cyngor proffesiynol, mae cyd-weinyddwyr wedi eu hapwyntio. Mae’r cwmni bellach wedi stopio masnachu ac mae holl staff y cwmni wedi eu gwneud yn ddi-waith,” meddai datganiad gan Leonard Curtis.

“Mae Leonard Curtis yn gweithio gyda’r holl gyfranddalwyr i geisio cyflawni’r canlyniad gorau posib. “