Bydd cynhadledd fyd-eang ar y gofod yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf erioed yr wythnos hon.
Mae Cynhadledd UK Space yn un o’r digwyddiadau pwysicaf a mwyaf dylanwadol ar y gofod yng ngwledydd Prydain.
Bwriad y digwyddiad yw dod â’r prif unigolion o fewn cymuned y gofod at ei gilydd, gan gynnwys llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant, er mwyn cyfnewid syniadau, rhannu cynlluniau a meithrin perthnasau.
Y gynhadledd eleni yw’r bumed un, ac fe fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICCW) yng Nghasnewydd.
Ariannu prosiectau gofod
Ar drothwy’r gynhadledd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer dau brosiect sy’n ymwneud â’r sector gofod yng Nghymru.
Bydd Snowdonia Aerospace yn derbyn £135,000 am brosiect ar Faes Awyr Llanbedr i brofi hedfan awyrennau di-griw, awyrennau trydan ac awyrennau gofod.
Mae B2Spcae hefyd wedi derbyn £100,000 i sefydlu ei hun yng Nghymru ac i ddefnyddio Llanbedr er mwyn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio balwnau stratosfferig i lansio lloerennau nano.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n anelu at greu 5% o drosiant diwydiant gofod gwledydd Prydain – cyfle gwerth £2bn y flwyddyn – erbyn y flwyddyn 2030.
“Mae Cymru yn cynnig amgylchedd ffisegol a busnes unigryw i gwmnïau yn y sector, ac mae’r twf a’r defnydd masnachol o’r Sector Gofodol yn hanfodol i’n llwyddiant yn y dyfodol,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.