Mae busnesau bwyd a diod yn cael eu hannog i baratoi ar gyfer Brexit, p’un a ydyn nhw’n allforio i wledydd yr Undeb Ewropeaidd neu beidio.

Daw’r alwad gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cymru, ac Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd Bwyd a Diod Cymru.

Maen nhw’n rhybuddio mewn llythyr ar y cyd fod y sector yn wynebu nifer o heriau yn sgil ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys mynediad i ddeunyddiau crai, rheoliadau, cyfraddau arian newidiol, llif arian a thariffau.

Mae’r llythyr yn nodi lle gall busnesau gael mynediad i gyngor, arweiniad a chefnogaeth, sy’n cynnwys gwefan Llywodraeth Cymru a llinell gymorth Busnes Cymru, ac yn amlinellu wyth ffordd o baratoi ar gyfer Brexit ar Hydref 31.

‘Paratowch’

“Mae llawer o gymorth, arweiniad a gwybodaeth ar gael allai helpu gyda’r heriau sy’n eu hwynebu yn y cyfnod wedi Brexit,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae’n bwysig eu bod yn sylweddoli y gallen nhw effeithio ar eu busnesau, os ydynt yn masnachu â’r Undeb Ewropeaidd neu beidio, gan ei bod yn debygol y bydd llawer o broblemau, rhai ohonynt yn annisgwyl, i ddelio â nhw.

“Rydyn ni yn y sefyllfa hon gyda’n gilydd, a dyna pam rydyn ni wedi ymuno â Bwrdd Bwyd a Diod Cymru, fel y gallwn gefnogi busnesau ym mhob ffordd posibl wrth inni baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.”

“Fel y mae pethau ar hyn o bryd, bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd wedi Hydref 31,” meddai Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd Bwyd a Diod Cymru.

“Bydd pob busnes bwyd a diod yng Nghymru yn teimlo’r effaith mewn rhyw ffordd ac rwyf am i bawb ddeall yr effeithiau hyn nawr a pharatoi cymaint â phosibl.

“Dw i’n deall ei bod yn anodd cynllunio ar gyfer Brexit a’i fod yn broblem fawr i nifer o fusnesau, yn enwedig ein mentrau llai, ond mae’n rhaid gwneud hyn neu gallai busnesau ddioddef.

“Mae cymorth i’w gael gyda’r cyngor sydd gennym yn ein llythyr ar y cyd, ond mae’n rhaid ichi weithredu nawr i leihau yr effaith a gaiff hyn ar eich busnesau. Dylech gynllunio ar gyfer Brexit mewn 4 cam – y gadwyn gyflenwi, rheoliadau, arian a chyngor.

“Nid yw yr un ohonon ni’n gwybod beth fydd canlyniad Brexit, ond nid yw hynny’n esgus i beidio â chynllunio.”