Mae Cadeirydd un o etholaethau Plaid Cymru yng Nghaerdydd wedi wfftio honiadau “nad oes unrhyw weithgarwch o werth” wedi digwydd yno ers dros flwyddyn.

Mewn llythyr at gylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae Jonathan Swan yn cyfeirio at lwyddiant y Blaid mewn etholiad i’r cyngor sir ym mis Chwefror: “Gwnaethom ennill un o seddi cyngor mwyaf diogel Llafur yng Nghymru, yn Nhrelái, gyda’r seithfed swing mwyaf mewn unrhyw isetholiad ym Mhrydain y ganrif hon.”

Roedd Jonathan Swan yn ymateb i lythyr yn rhifyn yr wythnos gynt o gylchgrawn Golwg, gan Elin Tudur, aelod o Blaid Cymru yng ngorllewin Caerdydd.

Roedd Elin Tudur wedi honni bod etholaeth Gorllewin Caerdydd heb fod yn gynhyrchiol ers diarddeliad Neil McEvoy ym mis Mawrth y llynedd.

Roedd yr Aelod Cynulliad yn arfer bod yn aelod o Blaid Cymru, ac mi safodd yn ymgeisydd tros y blaid yng Ngorllewin Caerdydd yn etholiad Cynulliad 2016.

Mae sawl un o’r blaid wedi honni bod Neil McEvoy a Gorllewin Caerdydd ynghlwm â chynllwyn i adfer ei aelodaeth.

“Chwalu’r chwedloniaeth”

Bu Elin Tudur yn rhedeg ymgyrch Neil McEvoy adeg etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

Yn ei llythyr i Golwg, roedd Elin Tudur am “chwalu’r chwedloniaeth” am yr etholaeth.

“Ers gwaharddiad dros dro Neil McEvoy, gallaf eich sicrhau nad oes unrhyw weithgaredd o werth wedi digwydd yn yr etholaeth,” meddai Elin Tudur.

“Mae egni’r aelodau wedi cael ei sugno gan y drwg deimlad a’r diffyg cydweithio, a’r beirniadu diddiwedd ar ACau [Aelodau Cynulliad] Plaid Cymru a’r blaid yn Ganolog.”

Amddiffyn etholaeth Gorllewin Caerdydd

Ond mae Cadeirydd Plaid Cymru yn etholaeth Gorllewin Caerdydd, Jonathan Swan, wedi amddiffyn Neil McEvoy a’r etholaeth.

“Fel Cadeirydd Gorllewin Caerdydd sydd newydd ei ailethol, gadewch i mi gadarnhau rhai o’r ffeithiau,” meddai mewn llythyr yn rhifyn diweddaraf Golwg.

“Yng Ngorllewin Caerdydd, rydym wedi cynnal miloedd o sgyrsiau gyda thrigolion ac wedi dosbarthu degau o filoedd o daflenni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel rydym ni’n ei wneud bob amser.

“Mae ein gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn siarad drosto’i hun.”

Mae Jonathan Swan yn cydnabod bod diarddeliad Neil McEvoy wedi “effeithio’n ddifrifol iawn ar weithgarwch” yr etholaeth, ond bod ei gwaith ddim “wedi dod i ben erioed”.

Llythyr Jonathan Swan yn llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg