Mae newid i Gôd y Gweinidogion yn golygu y bydd yna fwy o gefnogaeth i’r rheiny sy’n cael eu diswyddo o’r Llywodraeth, yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant trwy hunanladdiad ym mis Tachwedd 2017.

Fe gafodd yr Aelod Cynulliad tros Alyn a Glannau Dyfrdwy ei ddarganfod wedi ei grogi ei hun yn ei gartref yng Nghei Connah ychydig ddyddiau ar ôl iddo golli ei swydd yng Nghabinet Llywodraeth Cymru.

Roedd yn wynebu honiadau o gamymddwyn yn rhywiol yn erbyn merched – honiadau yr oedd yn eu gwadu ar y pryd.

“Cefnogaeth”

Ym mis Gorffennaf eleni, fe ddywedodd y crwner, John Gittins, ar ddiwedd y cwest i’w farwolaeth, y dylai fwy o gefnogaeth fod ar gael ar gyfer cyn-weinidogion.

Mewn ymateb i’r alwad honno, mae Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn bwriadu ychwanegu adran newydd at God y Gweinidogion er mwyn darparu “cydnabyddiaeth glir a chyhoeddus o’r pwysau y gall gweinidogion eu hysgwyddo, yn ogystal ag ymrwymiad i’w cefnogi’n bersonol.”

Mae Mark Drakeford hefyd yn dweud iddo gydweithio â theulu Carl Sargeant, yn ogystal a chyn-weinidigion a gweinidogion presennol y Llywodraeth, cyn adolygu’r cod.

Ymhlith y mesurau newydd mae darparu pecynnau gwybodaeth i weinidogion sy’n gadael eu swydd.

Bydd y pecynnau hyn yn cynnwys manylion am wasanaethau cefnogaeth, yn ogystal â manylion swyddog i gyfathrebu â nhw.

Mae rhaglen gynefino hefyd yn cael ei datblygu, meddai Mark Drakeford ymhellach, a bydd modd i weinidogion newydd drafod unrhyw broblemau sydd ganddyn nhw mewn awyrgylch gyfrinachol.

“Di-hid a dan din”

Mae, Jack Sargeant, mab Carl Sargeant a’i olynydd yn Aelod Cynulliad ar Alyn a Glannau Dyfrdwy, wedi croesawu’r cyhoeddiad, ond wedi beirniadu’r cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones.

“Mae’n glir i ni bod y Prif Weinidog [Mark Drakeford] yn cymryd cyfrifoldeb tros hybu a diogelu lles gweinidogion o ddifrif,” meddai. “Doedd hynny ddim yn digwydd adeg marwolaeth Dad.

“Wrth gwrs, does dim un rhan o hyn sy’n hawdd i’w ddarllen.

“Rydym yn teimlo bod yr agwedd di-hid a dan din oedd gan y Prif Weinidog blaenorol pan diswyddodd Dad wedi cyfrannu’n fawr at ei farwolaeth.

“Gobeithiwn y bydd Mark Drakeford yn geidwad ar fath fwy caredig o wleidyddiaeth.”