Mae ymgeisydd am Gadeiryddiaeth Plaid Cymru wedi wfftio honiadau bod Neil McEvoy – ai gefnogwyr – ynghlwm â chynllwyn.

Yr wythnos ddiwethaf cawson nhw eu cyhuddo gan Cynog Dafis, un o hoelion wyth y Blaid, o gynnal ymgyrch “lechwraidd” ac “annerbyniol”.

Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, yn gyn-aelod Plaid Cymru, ac mae rhai yn tybio bod un o etholaethau’r Blaid yn y brifddinas, Gorllewin Caerdydd, yn ymdrechu i adfer ei aelodaeth.

Bellach mae Dr Dewi Evans, ymgeisydd am Gadeiryddiaeth Plaid Cymru, wedi ymateb i sylwadau Cynog Dafis, gan wfftio’r cyhuddiad o “entryism” – hynny yw, ymdrech i gymryd drosodd y blaid.

Workism” nid “entryism

“Mae Cynog ar ei fwyaf gwallus wrth gyhuddo Neil McEvoy o ‘entryism,’” meddai mewn llythyr yn Golwg.

“Cyflwynwyd y gair i ddisgrifio mudiad adain chwith y Blaid Lafur Militant yn yr 80au i gipio grym drwy reoli etholaethau lle ‘roedd cefnogaeth i’r blaid honno yn barod yn gryf.

“Nid yw hyn yn gymharol â thwf  Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd. Dim ond yn bedwerydd, gyda 13.8% o’r bleidlais oedd y canlyniad  yn 2003, pryd ymunodd Neil.

“Gwelwyd cynnydd i dros 20% yn 2007 a 2011, a chynnydd uwch i 31.9% yn 2016, dim ond 1,176 pleidlais yn llai na phleidlais Prif Weinidog Cymru.

“Mae’r cynnydd yn adlewyrchu gweithgarwch Neil a’i gyd aelodau dros gyfnod hir o amser. Dim i’w wneud ag ‘entryism‘. Mwy i’w wneud â ‘workism‘.”

Cefndir

Fis diwethaf adroddodd cylchgrawn Golwg bod ffynonellau o fewn Plaid Cymru wedi codi pryderon am enwebiadau i’w Pwyllgor Gwaith.

Yr hyn sydd yn destun gofid i sawl un yw bod un etholaeth, Gorllewin Caerdydd, wedi enwebu sawl ymgeisydd – yn fwy nag unrhyw etholaeth arall – i sawl swydd.

Mae sawl un o’r rheiny wedi lleisio cefnogaeth at Neil McEvoy.

Yr Aelod Cynulliad hwnnw oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth yn etholiad Cynulliad 2016, a chafodd ei wahardd o Blaid Cymru’r llynedd.

Un o’r rheiny sydd wedi cael ei enwebu gan Orllewin Caerdydd yw Dr Dewi Evans – yr unig ymgeisydd arall am y gadeiryddiaeth yw’r Cadeirydd presennol, Alun Ffred Jones.

Gellir darllen yn stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.