Mae cyn bêl-droediwr Cymru a Lerpwl, Dean Saunders, yn gwneud cais am fechnïaeth heddiw (dydd Iau, Awst 29) ar ôl iddo gael dedfryd carchar o 10 wythnos.

Roedd Dean Saunders, 55, wedi gwrthod gwneud prawf anadl i’r heddlu ac fe benderfynodd Llys Ynadon Caer ddoe (dydd Mercher, Awst 28) y byddai’n mynd i’r carchar.

Fe alwodd y Barner Nicholas Sanders y tad o dri fel person “haerllug” a ddywedodd wrth Dean Saunders nad oedd wedi dangos unrhyw edifeirwch ac yn meddwl ei fod “uwchlaw’r gyfraith”.

Mae cyfreithwyr y cyn chwaraewr, wnaeth chwarae i Abertawe, Lerpwl, Aston Villa a Derby County, ac i Gymru 75 o weithiau, nawr yn apelio i ddedfryd maen nhw’n teimlo oedd yn “ormod.”

Fe fyddan nhw’n gwneud cais i farnwr uwch sy’n eistedd yn Llys y Goron Gaer ddydd Iau nes bod modd clywed ei apêl yn erbyn y ddedfryd.

Dywedodd Saunders ei fod wedi bod allan yn Rasus Caer ac wedi yfed tri pheint cyn cyrraedd ei Audi A8 a phenderfynu gyrru.