Mae ymgyrchwyr iaith yn dweud eu bod nhw’n barod i gefnogi protestiadau mewn cymunedau gwledig er mwyn atal Brexit caled.

Fe ddaw yn sgil rhybudd gan Undeb Amaethwyr Cymru fis diwethaf y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb arwain at anufudd-dod sifil ar lawr gwlad.

Ac mewn cyfarfod ar faes y brifwyl yn Llanrwst heddiw (dydd Mercher, Awst 7), mae Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith wedi dweud y byddai’r mudiad yn cefnogi unrhyw brotestiadau di-drais sy’n cael eu trefnu gan ffermwyr.

Y diwydiant amaeth “dan warchae”

“Mae’r diwydiant amaeth, a’r holl deuluoedd a masnachwyr sy’n dibynnu arno, o dan warchae ar hyn o bryd,” meddai Robart Idris, a oedd yn rhan o drafodaeth gyda Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, ynghyd â Non Williams ac Alun Elidyr.

“Mae’r bobol a’r cymunedau yma’n greiddiol i gynnal yr iaith; byddwn ni’n cefnogi ffermwyr gant y cant yn eu protestiadau neu unrhyw ddulliau di-drais eraill maen nhw’n dewis eu defnyddio er mwyn atal Brexit Boris Johnson rhag dinistrio cymunedau cefn gwlad.

“Wedi’r cwbwl, mae hyn oll yn rhan o ddarlun ehangach yn yr ymgyrch i sicrhau ffyniant y Gymraeg. Rydan ni’n ymgyrchu i atal diboblogi o‘n cymunedau gwledig ac allfudiad ein pobol ifanc o Gymru.”

Boris Johnson yn “bygwth y Gymraeg ar sawl lefel”

Yn ôl y Cyfrifiad yn 2011, mae 40% o weithwyr amaeth yn siarad Cymraeg, y ganran uchaf o bob maes gwaith yng Nghymru.

Mae hefyd ardaloedd helaeth yn y gorllewin, y canolbarth a’r gogledd lle mae hyd at 27% o’r boblogaeth wedi’u cyflogi yn y sector amaeth.

“Mae Boris Johnson fel Arweinydd y Blaid Geidwadol yn bygwth y Gymraeg ar sawl lefel, ac yn cynrychioli twf yn y rhagfarn yn erbyn y Gymraeg ers y refferendwm,” meddai Robat Idris ymhellach.

“Mae o’n dweud bod gormod o ardaloedd lle nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf y boblogaeth. Rydan ni’n dweud nad oes digon ohonyn nhw.

“Yn ddiweddar, rydan ni wedi gweld cynnydd yn yr ymosodiadau ar ddefnydd y Gymraeg ar lawr gwlad, fel rydan ni’n gweld mwy o ymosodiadau ar leiafrifoedd eraill.

“Mae’r frwydr yn erbyn popeth mae Boris Johnson ei gynrychioli yn rhan o frwydr ehangach yn erbyn twf yr adain-dde eithafol.”