Mae cynhyrchydd teledu wedi derbyn llawer o negeseuon a chefnogaeth ar ôl rhannu ei syniad i greu gorsaf radio newydd yn y Gymraeg ar y we.
“Nes i ddechrau meddwl am y peth nos Fercher a dechrau trydar amdano, ac mi ddaeth o’i gyd o fanno,” meddai Huw Marshall, sy’n ymgynghorydd cyfryngau, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu, wrth Golwg360.
Mae Huw Marshall wedi trefnu cyfarfodydd i drafod yr hyn mae’n ei ddisgrifio fel “prosiect cydweithredol” o sefydlu gorsaf radio Gymraeg annibynnol ar y we i ddarlledu un diwrnod yr wythnos ar y Sul. Fe fydd y daith yn dechrau 1 Dachwedd yng Nghaerdydd a bydd yn ymweld ag Aberystwyth a Chaernarfon. Bydd cyfle i bobl drafod a chynnig syniadau.
“Yr hyn dw i eisiau gwneud yw dechrau’r peth – a gweld beth yw ymateb pobol a beth fedran nhw wneud i gyfrannu, fel bod ni’n creu rhywbeth sydd yn ymateb i ofynion y gynulleidfa, fel petae,” meddai Huw Marshall.
‘Cyfle i ymarfer crefft’
“Dw i wedi sgwennu rhaglenni comedi a phethau yn y gorffennol ac wedi eu gyrru nhw i S4C a Radio Cymru. Ond, oherwydd pwysau dydyn nhw ond yn gallu comisiynu ambell beth, mae gymaint o’r pethau dw i wedi sgwennu jest yn eistedd ar y silff yn hel llwch,” meddai.
“Ro’ ni’n meddwl wedyn, mae o’n wastraff bod pethau’n eistedd yna achos bod ’na gwpl o bobl yn S4C a Radio Cymru di deud ‘na’ – yn licio’r syniad ond ella heb yr arian neu’r slot i’w wneud o. Ro’ ni’n meddwl bod cyfle i roi’r gwaith allan yna.”
Fe ddywedodd Huw Marshall bod llawer o actorion allan o waith hefyd. “Mae’n gyfle i bobol ymarfer eu crefft. Mae’n rhoi llwyfan iddyn nhw i ddangos beth yw eu gallu nhw.”
‘America, Llundain ac Iwerddon’
Dywedodd bod 600,000 o Gymry Cymraeg ar y we ar hyd a lled y byd ac y gallai unrhyw un wrando a mwynhau deunydd yr orsaf newydd. “Dyma’r fantais gyda’r math yma o beth, bod pawb yn gallu ei glywed,” meddai, cyn ychwanegu bod pobl wedi cysylltu o’r Unol Daleithiau, Llundain ac Iwerddon ar ôl clywed am y syniad.
Dywedodd nad yw’n rhywbeth cystadleuol, ond ei fod yn rhoi cyfle i bobl gyflwyno’i hunain mewn “ffordd greadigol.”
Diwrnod yn unig ar ôl iddo rannu’r syniad ar Twitter, roedd gan y cynhyrchydd teledu 150 o ddilynwr ychwanegol.
Dywedodd bod perfformwyr, sgriptwyr a chynhyrchwyr yn ogystal â phobol eraill wedi mynegi diddordeb yn y fenter fyddai’n cael ei galw’n ‘radiorcymry.’
“Mae’n ffordd wahanol o drafod. Nid newyddiadurwyr fydd yn trafod newyddion ond pobol sydd yn ymwneud â chomedi a pherfformwyr,” meddai.
Mae’n credu bod menter o’r fath yn cynnig ffordd arall o feddwl am y cyfryngau a’i fod yn rhoi platfform i’r Gymraeg ar y we. Mae cyfrif Twitter a thudalen Facebook eisoes wedi eu creu ar gyfer radiorcymry.
Doedd BBC Cymru ddim am gynnig sylw ar y mater.