Mae digrifwr a chyflwynydd teledu sy’n chwarae rhan amlwg yn yr ymgyrch tros annibyniaeth i’r Alban, yn dod i Gymru i gefnogi ymgyrch debyg.

Mi fydd y mudiad YesCymru yn cynnal rali ar faes Caernarfon yfory, ac mae Hardeep Kohli yn un o’r rhai fydd yn annerch y dorf.

Mae’r digrifwr yn adnabyddus am gyrraedd ffeinal  y gyfres gyntaf o Celebrity MasterChef yn 2006, wedi bod ar banel Question Time ac wedi cyflwyno eitemau ar raglen gylchgrawn The One Show.

Ac mae yn dweud ei fod yn gwybod tipyn am Gymru gan fod ei gyn-wraig yn Gymraes, ac mae yn danbaid dros gael annibyniaeth i’r wlad.

“Er bod yr Alban, yn gyfansoddiadol, ar y blaen i Gymru, fedra i ddim helpu ond teimlo bod pobol Cymru a’r diwylliant yn dioddef anghyfiawnderau,” meddai Hardeep Kohli wrth egluro pam ei fod o blaid annibyniaeth i Gymru.

“Mae’r ffaith eu bod nhw yn tanseilio eich iaith ac yn gwneud hwyl am ben eich diwylliant, ac wedi rhoi Cynulliad yn hytrach na Senedd i chi… mae o hyd yn oed yn waeth na’r ffordd maen nhw yn trin yr Alban.”

Priodi Cymraes

Mae gan y digrifwr feddwl mawr o’r Cymry.

“Mae fy nghyn-wraig yn hanu o’r Barri, ac yn rhyfedd iawn, rydw i wastad wedi teimlo yn anhygoel o gartrefol yng Nghymru, ymysg y bobol,” meddai Hardeep Kohli.

“Mae unrhyw wlad sy’n gosod diwylliant wrth galon yr hyn mae yn ei wneud, i fi, yn arweinydd yn y byd.”

Ac mae’r Albanwr yn credu bod dyfodiad Prif Weinidog newydd gwledydd Prydain am fod yn newyddion da i’r rhai sy’n ymgyrchu tros annibyniaeth i’r Alban a Chymru.

“Mae penodi Boris Johnson yn Brif Weinidog yn enghraifft wych o rywun sy’n gwybod dim byd am fywydau pobol yng Nghymru na’r Alban.

“O leiaf rydan ni yn ethol pobol [ar gyfer Senedd yr Alban] y mae’n bosib i ni eu pasio yn y stryd, pobol yr ydan ni’n eu hadnabod, pobol sydd â rhyw syniad…

“Pam fod o’n syniad chwerthinllyd mai’r Cymry yw’r rhai gorau i ofalu am y Cymry?

“Mae pawb yn cymryd yn ganiataol mai rhieni plentyn yw’r bobol orau i ofalu am y plentyn hwnnw…

“Mae Cymru wedi dioddef… beth wnaed ar ôl cau’r pyllau glo? Dim byd,” meddai Hardeep Kohli cyn ychwanegu “na fedr y Blaid Lafur ofalu am ei hetholaethau ei hun”.

Ac mae yn gweld cyfleon i gydweithio, petai Cymru a’r Alban yn annibynnol.

“Allwch chi ddychmygu’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad, y cryfder fyddai ganddo ni fel dwy genedl Geltaidd yn creu cytundebau masnachu a ballu?”