Fe fyddai Brexit heb gytundeb yn “hollol ddinistriol” i ffermwyr yng Nghymru, yn ôl undeb amaeth.

Fe ddaw’r sylw gan Lywydd NFU Cymru, John Davies, ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, sy’n dathlu ei chanfed blwyddyn eleni.

Gyda deiliad newydd 10 Downing Street i gael ei benodi ddydd Mercher (24 Gorffennaf), bydd John Davies yn ysgrifennu at y Prif Weinidog newydd i amlinellu pa mor hanfodol yw marchnad allforio’r Undeb Ewropeaidd (UE) i ddiwydiant amaethyddol Cymru, pwysleisio y dylai safonau lles anifeiliaid a safonau amgylcheddol gael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi, yn ogystal â sicrhau nad yw amaethyddiaeth Cymru yn colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit.

“Mae hwn yn amser hollbwysig a hanfodol i’r sector bwyd a ffermio – y diwydiant a fydd yn cael ei effeithio fwyaf gan y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd,” bydd John Davies yn pwysleisio yn ei lythyr.

“Rydym yn wynebu’r her o dorri’n rhydd oddi wrth bron i hanner canrif o gyfranogiad ym Mholisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, ochr yn ochr â’r cyfle i ddylunio a gweithredu polisi pwrpasol ar gyfer ffermio yng Nghymru.

“Mae hefyd yn golygu sefydlu cysylltiadau masnachu cwbl newydd â’r UE27 a gweddill y byd.”

“Trychinebus” i brisiau cig oen

Corff arall sy’n mynegi pryder yw Hybu Cig Cymru, ac yn ôl y Cadeirydd Kevin Roberts mae ymchwil newydd yn dangos y gallai ffermwyr cig oen Cymru wynebu gostyngiad o 24% mewn prisiau marchnad os yw allforion yn dod i ben o ganlyniad i Brexit ‘trychinebus’ heb fargen ym mis Hydref yn ystod cyfnod allweddol y tymor allforio cig oen.

“Fe wnes i rybuddio yn y Sioe y llynedd o effeithiau ‘seismig’ Brexit heb fargen – wel, mae’r wybodaeth newydd hon yn golygu byddai effaith heb fargen ym mis Hydref y tu hwnt i’r raddfa Richter,” meddai Kevin Roberts wrth randdeiliaid y diwydiant yn Sioe Llanelwedd.

Comisiynodd Hybu Cig Cymru, a’r ddau fwrdd cig coch arall yng ngwledydd Prydain, yr ymchwil gan Ganolfan Andersons, sy’n datgan y gallai allforion cig eidion a chig oen i’r UE ostwng 92.5% gyda masnach allforio cig oen “wedi ei ddileu yn llwyr” a fyddai’n taro prisiau’r farchnad yn wael.

“Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu yn yr wythnosau nesaf i atal hyn rhag dod yn realiti,” meddai Kevin Roberts.