Mae llai o holi cwestiynau Cymraeg ar lafar yn siambr y Cynulliad, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Yn ôl un o adroddiadau’r Cynulliad, roedd 11% o gwestiynau yn cael eu gofyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2018-19 – 13% oedd y nifer yn y flwyddyn flaenorol.

Mae Cynllun Ieithoedd Swyddogol: Adroddiad Blynyddol 2018-19 y Cynulliad hefyd yn dangos sawl cwymp arall yn nefnydd y Gymraeg.

Yn 2017-18 roedd 20% o gyfraniadau’r Cyfarfod Llawn, a 8% o gyfraniadau’r pwyllgorau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond yn 2018-19 roedd y ffigurau wedi disgyn i 18% ar gyfer y Cyfarfod Llawn, a 7% yn y pwyllgorau.

“Testun pryder”

Mae’r ffigurau yn “destun pryder” yn ôl David Williams o Gymdeithas yr Iaith, ac mae’n credu bod angen annog Aelodau’r Cynulliad i ddefnyddio’r iaith yn fwy aml.

“Mae cyfrifoldeb arbennig ar ein gwleidyddion i ddangos arweiniad,” meddai. “Rydyn ni wedi gofyn i bob Aelod o’r Senedd wneud adduned i siarad mwy o Gymraeg yn y Siambr.

“Mae’n amlwg hefyd bod Elin Jones, fel y Llywydd, yn ceisio cynnig arweiniad cryf i’r Aelodau o ran defnydd o’r iaith yn y Senedd, a diolch iddi am ei gwaith.

“Fe hoffem ni annog y Llywydd i ystyried rhagor o ffyrdd i annog Aelodau, ac yn enwedig Gweinidogion, i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach.”

Prifardd wedi cael “siom”

Mae’r Prifardd Robat Powell wedi tynnu sylwa at brinder Cymraeg ar lafar yn y Cynulliad mewn llythyr yng nghylchgrawn Golwg.

Yn y llythyr mae’n sôn am ei ymweliad diweddar â’r Senedd, a’i “siom” o glywed cyn lleied o Gymraeg yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog.

“A ninnau’n clywed hyd syrffed am y ‘Miliwn o siaradwyr Cymraeg’ sydd yn darged ac yn bolisi honedig Llywodraeth Cymru a’r prif wrthbleidiau, profiad hynod siomedig oedd yr awr a chwarter yna yn y Senedd,” meddai Robat Powell yn ei lythyr.

“Os nad yw ein harweinwyr gwleidyddol yn barod i osod esiampl trwy ddefnyddio’r iaith yn gyhoeddus, er gwaethaf yr holl fuddsoddi mewn offer cyfieithu a chyfieithwyr proffesiynol yn y Senedd, sut gellir disgwyl i weddill y genedl ymdrechu i ddefnyddio’r iaith, yn aml dan amodau llai ffafriol?”

Defnydd ar gynnydd

Mewn sawl maes arall mae defnydd y Gymraeg wedi cynyddu, yn ôl adroddiad y Cynulliad, ac mi allwch weld crynodeb o hynny islaw.

  • Cwestiynau Ysgrifenedig: cynyddu o 7% (2017-18) i 10% (2018-19)
  • Cynigion: o 2% i 3%
  • Gwelliannau: o 7% i 14%
  • Datganiadau Barn: o 2% i 5%
  • Cwestiynau Amserol: 10% i 15%

Mae golwg360 wedi gofyn i’r Cynulliad am ymateb.