Fe fydd un o ysgolion cynradd Cymraeg Pontypridd yn symud o’i safle presennol i safle ysgol gynradd Saesneg sy’n cael ei chau fel rhan o gynlluniau i ad-drefnu addysg yn y dref.

Fe fydd Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton yn cael ei chau ar ei safle presennol, ac ysgol newydd yn cael ei hagor ar safle’r hen ysgol gynradd Saesneg Heol-y-Celyn ar ôl i honno gael ei chau hefyd.

Mae’n rhan o gynlluniau ad-drefnu gwerth £37m sydd wedi cael sêl bendith Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf.

Gwrthwynebiad

Fe fu rhieni ac ymgyrchwyr addysg yn poeni am y cynllun, gan y byddai’n golygu taith dipyn mwy i gyrraedd yr ysgol ym mhen draw’r dref.

Rai misoedd yn ôl, dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n “siomedig” ynghylch y cynlluniau, gan eu bod yn cynnwys cau safle mewn ardal lle mae cryn alw am addysg Gymraeg. Ym mis Ebrill, cerddodd ymgyrchwyr bob cam o Ynysybwl i Rydyfelin i wrthwynebu’r cynlluniau.

Maen nhw’n dweud y bydd y newidiadau’n effeithio ar sefyllfa’r Gymraeg yn y gymuned.

Roedden nhw’n pwysleisio’r pellter y byddai’n rhaid i blant mor ifanc â thair oed orfod teithio ar fws – hyd at chwe milltir rhwng Ynysybwl, Glyncoch a Choedycwm.

Yn ôl ymgyrchwyr, fe fydd y pellter teithio a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn ei gwneud yn anodd i’r plant fynychu clybiau brecwast ac ar ôl ysgol, ac i rieni gyrraedd eu plant mewn argyfwng.

Er bod yr ymgyrchwyr yn croesawu’r buddsoddiad yn adeilad newydd ysgol Gymraeg Pont Sion Norton, roedden nhw’n teimlo bod gwendidau yn y cynlluniau, a bod diffyg cynllunio wedi bod.