Cyngor Sir Gwynedd yw’r Cyngor Sir cyntaf i bleidleisio o blaid datgan eu cefnogaeth i Gymru annibynnol.

Roedd 42 o gynghorwyr o blaid, gyda dim ond pedwar yn erbyn, a phump yn atal eu pleidlais.

Fe ddaw ar ôl i Nia Jeffreys gyflwyno cynnig yn galw ar y Cyngor Sir i “anfon neges glir nad yw Cymru yn rhy fach na thlawd i sefyll ar ei thraed”. Roedd nifer o gynghorau tref a chymuned eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i Gymru annibynnol, ond mae pleidlais Cyngor Sir Gwynedd yn torri tir newydd.

 

Cyngor tref Machynlleth oedd y cyntaf i ddatgan eu cefnogaeth, ac mi ddilynodd cynghorau Porthmadog a Blaenau Ffestiniog yn fuan wedi hynny.

Bellach mae tua dwsin o gynghorau tref a chymuned wedi atseinio’r galw gan gynnwys cynghorau Caernarfon, Llanuwchllyn, a Thrawsfynydd.

 

“Cam dewr a hanesyddol”

Mae cadeirydd y mudiad Yes Cymru, Siôn Jobbins, wedi llongyfarch Cyngor Gwynedd am gymryd “cam dewr a hanesyddol”.

“Mae hwn yn adeiladu ar seiliau cryf y cynghorau cymuned sydd wedi bod yn datgan dros annibyniaeth,” meddai Siôn Jobbins wrth golwg360.

“Mae’n dechrau troi i mewn i gaseg eira ac rydyn ni’n gobeithio y bydd mwy o gynghorau cymuned a sir yn ymuno gyda Gwynedd.

“Yr hyn sy’n bwysig yw bod pobol Cymru ar lawr gwlad yn dechrau ymdrefnu,” meddai wedyn.

“Flwyddyn yn ôl, neu hyd yn oed chwe mis yn ôl, bydden i byth wedi dychmygu y byddai rhywbeth fel hyn yn digwydd.

“Ond mae’n amlwg bod rhywbeth yn digwydd yng Nghymru…”