Bydd un o newyddiadurwyr mwyaf blaenllaw y BBC yng Nghymru yn gadael ei swydd ar ddiwedd yr haf er mwyn dod yn uwch-swyddog cyfathrebu yn y Cynulliad.

Mae Arwyn Jones ar hyn o bryd yn ohebydd gwleidyddol BBC Cymru, ac mae wedi bod yn gweithio i’r Gorfforaeth ers 15 mlynedd.

Mae’n wyneb cyfarwydd ar raglenni newyddion BBC Cymru yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mae’n brif gyflwynydd y rhaglen Sunday Politics Wales ar y penwythnosau.

Yn rhinwedd ei swydd newydd, sef Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu y Cynulliad, bydd Arwyn Jones yn gyfrifol am sianeli cyfathrebu ac ymgysylltu’r sefydliad.

‘Adeg mor gyffrous o newid cyfansoddiadol’

“Ar ôl arsylwi gwaith y Cynulliad dros y degawd a hanner diwethaf, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â’r swydd ar adeg mor gyffrous o newid cyfansoddiadol,” meddai Arwyn Jones.

“Mae ceisio cyrraedd pleidleiswyr ac ymgysylltu â nhw yn cyflwyno heriau a chyfleoedd yr wyf ar dân i gychwyn arni.”

Yn ôl Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr y Cynulliad, bydd Arwyn Jones yn ymuno a’r sefydliad ar “adeg arbennig o ddiddorol a phwysig”.

“Rwy’n falch fy mod wedi denu cyfarwyddwr newydd dawnus ac uchel ei barch ac rwy’n gwbwl sicr y bydd gweledigaeth a sgiliau Arwyn yn gaffaeliad mawr i ni wrth i’n democratiaeth gychwyn y cyfnod trawsnewid nesaf.”