Mae grŵp o ymgyrchwyr amgylcheddol wedi cyhoeddi y byddan nhw’n dod â’r protestiadau y tu allan i gastell Caerdydd i ben.

Mewn cyfarfod cyhoeddus fore heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 17), penderfynodd aelodau’r Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) symud ffocws eu protest o Heol y Castell i Neuadd y Ddinas.

Daw’r penderfyniad yn ystod y trydydd diwrnod o brotestio ynghanol y ddinas, sydd wedi achosi trafferthion i draffig wrth i ymgyrchwyr feddiannu strydoedd.

Bwriad y brotest, sy’n rhan o ddigwyddiad ehangach ledled gwledydd Prydain o’r enw ‘Gwrthryfel yr Haf’, yw galw ar Lywodraeth Prydain i weithredu yn erbyn newid yr hinsawdd.

Wrth adael, mae’r grŵp wedi diolch i’r cyngor, yr heddlu a busnesau lleol am eu cydweithrediad.

Maen nhw hefyd yn bwriadu cysylltu ag Aelodau Seneddol, Aelodau’r Cynulliad a Chyngor Caerdydd yn dilyn y protestiadau.

Ond maen nhw’n rhybuddio y byddan nhw’n dychwelyd oni bai bod yna “weithredu clir” gan y gwleidyddion.