Bydd ysgolion Cymru yn cael diwrnod ychwanegol i ffwrdd yn ystod y tair blynedd nesaf.

Mae’r cyfan yn rhan o’r paratoadau ar gyfer y Cwricwlwm Addysg newydd a fydd yn cael ei weithredu o 2022 ymlaen.

Bydd y diwrnod hyfforddiant ychwanegol yn digwydd bob tymor yr haf, gyda’r amser yn cael ei ddefnyddio’n “effeithiol” er mwyn paratoi athrawon ar gyfer y newid, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, fe fuddsoddodd Llywodraeth Cymru £24m mewn hyfforddiant ar gyfer athrawon.

“Paratoi yn dda”

“Rydyn ni am sicrhau’r addysg orau bosib i’n disgyblion, ac i gyflawni hynny rhaid inni wneud yn siŵr bod athrawon wedi paratoi yn dda i wneud yr hyn y maen nhw’n ei wneud orau,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Mae’r diwrnod HMS ychwanegol hwn, ochr yn ochr â’r buddsoddiad digyffelyb yr ydyn ni wedi’i wneud yn ein hathrawon, yn dangos ein bod ni o ddifrif am roi’r amser a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i addysgu’r cwricwlwm newydd.”

Mae undebau’r athrawon wedi croesawu’r diwrnod hyfforddiant ychwanegol, gydag NEU Cymru yn dweud y bydd yn “help mawr” i ysgolion wrth baratoi ar gyfer y newidiadau ym myd addysg.

Bydd yr ymgynghoriad ar y cwricwlwm drafft yn dod i ben ar ddiwedd yr wythnos hon, sef Gorffennaf 19.